Yn ôl
Gwneud cwyn diogelu data
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cwyn os ydych o’r farn nad yw Cofrestrfa Tir EF wedi trin eich data personol yn unol â deddfwriaeth.
Bydd angen cyfeiriad ebost arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Byddwn yn anfon diweddariadau o ran cynnydd ac ymatebion i’ch cwyn i’r ebost hwn. Os nad oes gennych gyfeiriad ebost, gallwch gwyno dros y ffôn neu trwy lythyr.
Lawrlwytho fersiwn y gellir ei argraffu o’r ffurflen hon
Os ydych am wneud cwyn am un o wasanaethau Cofrestrfa Tir EF, gallwch ddefnyddio’n ffurflen gwyno ar-lein.
Cyn ichi ddechrau
Byddwn yn gofyn ichi am unrhyw wybodaeth sy’n ategu’ch cwyn. Gall hyn gynnwys:
- cyfeirnod Hawliau Gwybodaeth
- rhif teitl
- cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo
- cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF
- unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth yn ymwneud â’ch cwyn
Cymorth gyda gwybodaeth ategol
- Os ydych wedi cysylltu â’r tîm Hawliau Gwybodaeth o’r blaen, efallai bod gennych gyfeirnod Hawliau Gwybodaeth.
Fe welwch hwn yn llinell bwnc unrhyw negeseuon ebost a anfonwyd atoch, neu ar frig unrhyw lythyr o dan ‘Ein cyfeirnod’.
- Gallwch ddod o hyd i’r rhif teitl ar ddogfennau Cofrestrfa Tir EF, er enghraifft copïau o’r gofrestr teitl, neu lythyr a anfonwyd gennym.
- Ein ffordd o adnabod cyfeiriad mae eich cwyn yn ymwneud ag ef yw cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo. Er enghraifft, ‘2 Heol y Nant, Coedlan, AP1 PL1’ neu ‘tir i ochr ddwyreiniol Ffordd y Felin'.
- Gelwir cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF yn gyfeirnod CTEF, cyfeirnod Cais CTEF neu Gyfeirnod Cod Bar Cais (ABR) hefyd.
