Yn ôl
Cwyno am Gofrestrfa Tir EF
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i wneud cwyn am Gofrestrfa Tir EF.
Bydd angen cyfeiriad ebost arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Byddwn yn anfon diweddariadau o ran cynnydd ac ymatebion i’ch cwyn i’r ebost hwn. Os nad oes gennych gyfeiriad ebost, gallwch gwyno dros y ffôn neu trwy lythyr.
Os nad ydych am wneud cwyn ffurfiol ond am awgrymu sut gallwn wella, gallwch roi adborth gan ddefnyddio'n ffurflen gysylltu.
Cyn ichi ddechrau
Byddwn yn gofyn ichi am unrhyw wybodaeth sy’n ategu’ch cwyn:
- rhif teitl
- cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo
- cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF
- unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth sy’n ymwneud â’ch cwyn
Cymorth gyda gwybodaeth ategol
- Gallwch ddod o hyd i’r rhif teitl ar ddogfennau Cofrestrfa Tir EF, er enghraifft copïau o’r gofrestr teitl, neu lythyr rydym wedi ei anfon atoch.
- Ein ffordd o adnabod cyfeiriad mae eich cwyn yn ymwneud ag ef yw cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo. Er enghraifft, ‘2 Cae Melyn, Caerdydd, CF4 8RB’ neu ‘tir i ochr ddwyreiniol Heol Las’.
- Gelwir cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF yn gyfeirnod CTEF, Cyfeirnod Cais CTEF neu ABR hefyd.
- Cyfeirnod rydych chi’n ei greu ac yn gofyn inni ei ddefnyddio yw eich cyfeirnod cwsmer.
