Datganiad hygyrchedd ar gyfer Apply for Business e-Services

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i https://customerhelp.landregistry.gov.uk/afs-apply/

Cofrestrfa Tir EF sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo mewn hyd at 200% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Ein nod hefyd yw gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd (mae’r testun yn agor mewn ffenest newydd).
 

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau yn hollol hygyrch:

  • nid yw rhai penawdau’n gyson
  • nid oes ôl-gysylltau ar bob un o’r tudalennau

Cysylltwch â ni os oes angen gwybodaeth ar y rhaglen hon arnoch ar ffurf wahanol, gan gynnwys:

  • PDF hygyrch
  • print bras
  • hawdd ei ddeall
  • recordiad sain
  • braille


Ffôn

Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Darllen am gost galwadau (mae’r cyswllt yn agor mewn ffenest newydd)

Gallwn ddarparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd hefyd.


Ffurflen gysylltu ar-lein
Defnyddiwch ein ffurflen gysylltu i anfon neges atom.  

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 5 niwrnod.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod (mae’r cyswllt yn agor mewn ffenest newydd).
 

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai tudalennau’n cynnwys teitlau lluosog gyda’r tag pennawd H1. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (safon A) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe

Rydym yn bwriadu cywiro’r gwallau hyn erbyn Medi 2024.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ni ddylai fod unrhyw gynnwys arall a fyddai’n achosi problemau hygyrchedd yn y gwasanaeth hwn.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol inni gywiro ffeiliau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu’n gwasanaethau (mae’r cyswllt yn agor mewn ffenestr newydd).

Baich anghymesur

Byddwn yn sicrhau bod ein gwasanaethau yn cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd. Gellir gweld cynnwys nad yw’n cydymffurfio â’r canllawiau mewn adrannau eraill o’r datganiad hwn.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gwella’r gwasanaeth hwn yn barhaus a byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn pan fydd unrhyw beth yn newid.


Sut y profwyd y wefan hon

Profwyd ein tudalen Business e-Serivces gan ddefnyddio’n meddalwedd mewnol.

Profwyd hyn ar 22 Ionawr 2024. Cynhaliwyd profion gan dîm archwilio mewnol gan ddefnyddio cyfres brawf bwrpasol.

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Ionawr 2024. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 7 Mai 2024.


Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid:

Ffôn

Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Darllen am gost galwadau (mae’r cyswllt yn agor mewn ffenest newydd)


Ffurflen gysylltu ar-lein
Defnyddiwch ein ffurflen gysylltu i anfon neges atom.  

Cyfeiriad

HM Land Registry Citizen Centre,
PO Box 74,
Gloucester
GL14 9BB

 

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r modd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (mae’r cyswllt yn agor mewn ffenest newydd).