Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cofrestrfa Tir EF – Cwyno am Gofrestrfa Tir EF

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i’r ffurflen ar-lein Cwyno am Gofrestrfa Tir EF.

Sut y dylech allu defnyddio’r wefan hon

Cofrestrfa Tir EF sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • chwyddo mewn hyd at 400% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • cyrchu’r wefan gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau, meintiau sgrin a chyfeiriadau

Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall hefyd. Rydym yn defnyddio termau technegol dim ond lle nad oes geiriad haws i’w ddefnyddio heb newid yr ystyr.

Mae gan AbilityNet (Mae’r dudalen hon yn agor yn Saesneg) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn hollol hygyrch:

  • nid yw’r ôl-gysylltau bob amser yn yr un lle
  • nid yw’r holl gynnwys yn cael ei arddangos yn gywir yn Gymraeg

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os cewch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni ar-lein.

Gallwch gysylltu â ni hefyd i ofyn am ein gwasanaeth digidol â chymorth os hoffech gael help i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Cysylltwch â ni os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch ar ffurf wahanol, gan gynnwys PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille.

Ffôn

Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Darllen am gost galwadau  


Ffurflen gysylltu ar-lein

Anfonwch ymholiad trwy ein ffurflen gysylltu.  

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 5 niwrnod.

Cyfeiriad

HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 7806
Bilston
WV1 9QR

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r modd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).


Statws cydymffurfio

Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 (Mae’r dudalen hon yn agor yn Saesneg), oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

  • Nid yw’r ôl-gyswllt bob amser yn yr un lle ar y dudalen. Ar y dudalen gyntaf, mae ar y gornel chwith uchaf ac ar y tudalennau eraill, mae’n fotwm ar waelod chwith y dudalen. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 3.2.3 (Llywio Cyson) safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Mae rhai cyfyngiadau gyda’r platfform a ddefnyddir gennym. Nid yw'n caniatáu botwm yn ôl ar dudalen gyntaf y ffurflen gysylltu felly mae angen inni ddefnyddio cyswllt yn ôl yn lle hynny. Gallem dynnu’r cyswllt yn ôl o’r dudalen gyntaf i greu cysondeb ond byddai hyn yn dileu’r opsiwn i lywio i’r dudalen flaenorol.

Ni allwn ddatrys y mater hwn eto ond byddwn yn adolygu opsiynau’n rheolaidd i sicrhau bod hyn yn cydymffurfio.

  • Mae’r swyddogaeth uwchlwytho ffeiliau yn Saesneg ac nid yn Gymraeg. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 3.1.1 (Iaith tudalen) safon A Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn gallu ei ddatrys ar hyn o bryd gan nad yw’r Gymraeg yn iaith a gefnogir ar y platfform a ddefnyddir gennym.

Rydym yn monitro’n rheolaidd i weld a gaiff y Gymraeg ei chefnogi er mwyn inni ddatrys y mater hwn.

Baich anghymesur

Nid oes unrhyw nodweddion yn y gwasanaeth hwn sy’n faich anghymesur.

Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn gwella’r gwasanaeth hwn yn barhaus a byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn pan fydd unrhyw beth yn newid.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Mawrth 2025. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 24 Mawrth 2025.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 12 Chwefror 2025 yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Cynhaliwyd y prawf gan Gofrestrfa Tir EF. Profwyd yr holl dudalennau gan ddefnyddio offer profi â llaw ac offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan.