Datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni cysylltu CTEF
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i’r ffurflenni cysylltu Cymraeg ar-lein
- Cysylltu â ni – Ymholiad cyffredinol
- Cofrestrfa Tir EF: Adborth
- Gwasanaeth Rheoli Cais (AMS1)
- Pridiannau Tir Lleol
- Cais am wasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno (PSS1)
- Gwasanaeth Ymholi Cyn-gyflwyno a Gwasanaeth Rheoli Cais
- Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo
Sut y dylech allu defnyddio’r wefan hon
Cofrestrfa Tir EF sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
- chwyddo mewn hyd at 400% heb i’r testun gwympo oddi ar y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
- cyrchu’r wefan gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiadau, meintiau sgrin a chyfeiriadau
Rydym wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall hefyd. Rydym yn defnyddio termau technegol dim ond lle nad oes geiriad haws i’w ddefnyddio heb newid yr ystyr.
Mae gan AbilityNet (Mae’r dudalen hon yn agor yn Saesneg) gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau yn hollol hygyrch:
- nid yw’r holl gynnwys yn cael ei arddangos yn gywir yn Gymraeg
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os cewch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni ar-lein.
Gallwch gysylltu â ni hefyd i ofyn am ein gwasanaeth digidol â chymorth os hoffech gael help i ddefnyddio’r gwasanaeth.
Cysylltwch â ni os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch ar ffurf wahanol, gan gynnwys PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille.
Ffôn
Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Dydd Llun i ddydd Iau, 8am i 5pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Ffurflen gysylltu ar-lein
Anfonwch ymholiad trwy ein ffurflen gysylltu.
Byddwn yn ymateb i’ch cais o fewn 5 niwrnod gwaith.
Cyfeiriad
HM Land Registry Citizen Centre
PO Box 7806
Bilston
WV1 9QR
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â’r modd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Cofrestrfa Tir EF wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’).
Statws cydymffurfio
Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 (Mae’r dudalen hon yn agor yn Saesneg), oherwydd y diffyg cydymffurfio a’r eithriadau a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
- Mae’r swyddogaeth uwchlwytho ffeiliau yn Saesneg ac nid yn Gymraeg. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 3.1.1 (Iaith tudalen) safon A Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2. Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn gallu ei ddatrys ar hyn o bryd gan nad yw’r Gymraeg yn iaith a gefnogir ar y platfform a ddefnyddir gennym. Rydym yn monitro’n rheolaidd i weld a gaiff y Gymraeg ei chefnogi er mwyn inni ddatrys y mater hwn.
- Nid yw’r holl labeli ARIA yn Gymraeg ac felly nid ydynt yn disgrifio’r cynnwys maent yn ynghlwm wrthynt yn gywir. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth) safon A Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2. Ein nod yw datrys y mater hwn erbyn diwedd Mehefin 2025.
Baich anghymesur
Nid oes unrhyw nodweddion yn y gwasanaeth hwn sy’n faich anghymesur.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gwella’r gwasanaeth hwn yn barhaus a byddwn yn diweddaru’r datganiad hwn pan fydd unrhyw beth yn newid.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Mawrth 2025. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 24 Mawrth 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 12 Chwefror 2025 yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.
Cynhaliwyd y prawf gan Gofrestrfa Tir EF. Profwyd yr holl dudalennau gan ddefnyddio offer profi â llaw ac offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan.