Sut i ddelio â materion terfyn ar y cyd
Ceir rhai ymholiadau am derfynau lle na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu helpu oherwydd dim ond gwybodaeth benodol sydd gennym ar ein cofrestr. Yn yr achosion hyn byddwn yn eich cyfeirio at sefydliad a all helpu.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael gwybod:
- a allwn eich helpu gyda’ch ymholiad terfyn
- sut i gael a dehongli unrhyw wybodaeth sydd gennym
- eich dewisiadau pan na allwn helpu
- sut i gywiro camgymeriad ar eich cynllun teitl
Cyn dechrau, bydd angen ichi wybod
- a yw’r eiddo wedi ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF
- pwy sy’n berchen ar yr eiddo
- a yw’n cael ei berchen ar y cyd neu gan un unigolyn
Gallwch chwilio am wybodaeth ar gyfer eiddo o Gofrestrfa Tir EF.
Warning
Dim ond tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr rydym yn ei gofrestru.
Nid ydym yn rheoli’r cofrestri ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon
Nid ydym yn rheoli’r cofrestri ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon