Sut i newid eich enw ar gofnodion eiddo

Mae’r rhan fwyaf o dir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr wedi ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF. Mae’r gofrestr yn gofnod cyfreithiol o bwy sy’n berchen ar dir neu eiddo ac mae ar gael i’r cyhoedd ei gweld.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gael gwybod:

  • pa ffurflenni y bydd angen ichi eu llenwi
  • pa ddogfennau y bydd angen ichi eu hanfon atom

Cyn dechrau, bydd angen ichi wybod

  • a yw’r eiddo wedi ei gofrestru gyda Chofrestrfa Tir EF
  • a yw’r eiddo yn cael ei berchen ar y cyd neu gan un unigolyn

Gallwch chwilio am wybodaeth am eiddo o Gofrestrfa Tir EF.

Warning Dim ond tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr rydym yn ei gofrestru.
Nid ydym yn rheoli’r cofrestri ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon