Yn ôl

Cwsmeriaid sydd ag anghenion,cyflyrau neu amgylchiadau penodol

Help sydd ar gael

Gallwch gael cymorth ychwanegol os yw eich cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol yn ei gwneud yn anodd ichi gysylltu â Chofrestrfa Tir EF, er enghraifft, efallai bydd angen cymorth ychwanegol arnoch:

  • Os oes gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol
  • Os oes gennych lai o symudedd neu anableddau corfforol
  • Os oes gennych anableddau synhwyraidd, fel nam ar y golwg, y clyw neu’r lleferydd
  • Os oes gennych gyflyrau iechyd meddwl, fel iselder, straen neu or-bryder
  • Os oes gennych gyflwr arall sy’n gwneud print safonol neu lenwi ffurflenni’n anodd
  • Os oes angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol fel braille neu brint bras arnoch
  • Os oes angen gwybodaeth mewn iaith arall arnoch

Gallwn ddarparu cymorth:

  • Os na allwch ddefnyddio ffôn a bod angen ffordd wahanol i gysylltu â Chofrestrfa Tir EF arnoch
  • Os oes angen gwybodaeth mewn fformat gwahanol arnoch
  • Os oes angen help i lenwi ffurflenni arnoch
  • Os oes angen gwybodaeth mewn iaith arall arnoch
  • Os oes angen i rywun i siarad â Chofrestrfa Tir EF ar eich rhan

Er mwyn ein helpu i ddeall y ffordd orau i’ch cefnogi

  • Dywedwch wrthym pa fath o gymorth sydd ei angen arnoch neu ba wybodaeth hoffech chi ei chael
  • Rhowch gymaint o wybodaeth ag y teimlwch yn gyfforddus yn ei rhoi, ynghyd â gwybodaeth am unrhyw dechnoleg gynorthwyol neu addasol y gallech ei defnyddio.

Oherwydd natur a fformat y dogfennau sydd gennym, sylwer efallai bydd cyfyngiadau o ran darparu dogfennau/gwybodaeth mewn rhai fformatau eraill.

Cyfyngiadau statudol

Efallai gallwn ddarparu copi o ffurflen gais mewn braille, ond ni allwn dderbyn ffurflen mewn braille yn unig gan ei bod yn rhan o gofnod parhaol y teitl, felly mae angen iddi fod yn hygyrch i gwsmeriaid yn y dyfodol.

Ni allwn lenwi ffurflenni ar eich rhan.

Cyfyngiadau technolegol

Mae’r rhan fwyaf o ddogfennau modern (gan gynnwys y ffont safonol a ddefnyddiwn mewn gohebiaeth a anfonir gennym) yn cael eu creu gan ddefnyddio technoleg y gellir ei darllen gan dechnoleg gynorthwyol. Fodd bynnag, mae llawer o hen ddogfennau trawsgludo sydd gennym yn ddelweddau wedi eu sganio na ellir eu darllen gan y dechnoleg berthnasol.

Cyfyngiadau ariannol

Os ydych am gael rhywbeth mewn fformat gwahanol, byddwn yn anelu at ei ddarparu. Fodd bynnag, weithiau, rhaid inni ddefnyddio cyrff allanol i ddarparu dogfen mewn fformat gwahanol ac mae cost ynghlwm wrth hynny. Rhaid inni ddeall angen y cwsmer yn gyntaf cyn cytuno, gan mai ni sy’n ysgwyddo unrhyw gostau fel arfer.

 

*Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn cael ei rheoli yn unol â’n Siarter Gwybodaeth Bersonol.

 

Ar ôl cael eich cais, bydd aelod o’n Tîm Cymorth Ychwanegol yn cysylltu â chi i drafod sut gallwn eich helpu.

 

I gysylltu â ni, cliciwch ‘Nesaf’