Yn ôl

Rhoi gwybod am wall ar gofrestr, cynllun teitl neu ddogfen

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn os ydych yn credu bod Cofrestrfa Tir EF wedi gwneud camgymeriad
ar gofnod cofrestr, cynllun teitl, copi o ddogfen neu chwiliad o’r map mynegai.

 

Bydd angen cyfeiriad ebost arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Byddwn yn anfon diweddariadau
i’r ebost hwn. Os nad oes gennych gyfeiriad ebost, gallwch roi gwybod am y gwall
dros y ffôn neu trwy lythyr.

Os oes angen ichi roi gwybod am broblem gyda Chwiliad Swyddogol, defnyddiwch y ffurflen
gysylltu ar-lein.


Cyn ichi ddechrau

Byddwn yn gofyn ichi am unrhyw wybodaeth a all ein helpu i ymchwilio i’r gwall.
Gall hyn gynnwys:

  • rhif teitl – gallwch ddod o hyd i hwn ar ddogfennau Cofrestrfa Tir EF

  • cyfeirnod Cofrestrfa Tir EF – a elwir yn gyfeirnod CTEF,
    cyfeirnod cais CTEF neu ABR hefyd

  • dogfennau neu dystiolaeth yn ymwneud â’r gwall
 

Cwsmeriaid busnes yn unig

Yn ogystal â’r uchod, byddwn yn gofyn ichi am:

  • eich rhif allwedd – gallwch ddod o hyd i hwn yn y porthol neu Business Gateway

  • cyfeirnod cwsmer – cyfeirnod rydych chi'n ei greu ac yn gofyn inni ei ddefnyddio yw hwn